I ddechrau
Gwnewch y saws drwy dorri’r sibols yn fân ac yna gwresogi un llwy fwrdd o olew mewn sosban fach dros wres canolig, ychwanegwch y sibols a’u coginio am tua 6 munud nes eu bod yn feddal. Gratiwch groen yr oren a gwasgu’r sudd ac ychwanegu’r ddau at y sibols ynghyd â’r aeron meryw, llugaeron, sinsir a phort a’u coginio am tua 5 munud nes bod y llugaeron yn dechrau popio. Trowch y gwres yn is ac ychwanegwch y jeli cyrains cochion yna ychwanegu halen a phupur a’u coginio am 5 munud arall. Rhowch nhw i un ochr er mwyn i chi goginio’r stêcs.
Yn syml
Rhowch halen a phupur ar y stêcs a’u cynhesu mewn padell ffrio dros wres canolig i boeth. Yna ychwanegwch weddill yr olew a’r menyn, ac ar ôl iddynt doddi coginiwch y stêcs am 3 munud ar y ddwy ochr i gael stêcs canolig. Arllwyswch unrhyw fraster dros ben ac ychwanegwch y saws i’r badell a’i ailgynhesu am ychydig funudau.
I weini
Gweinwch y stêc wedi’i sleisio os dymunwch, gyda’r saws a thatws stwnsh mwstard a brocoli wedi’i stemio neu cavolo nero.