I ddechrau
Gwnewch y ragu drwy gynhesu dysgl caserol trwm dros wres cymedrol. Ychwanegwch 2 lwy fwrdd o olew a rhowch bupur a halen ar y cig carw ac yna’i frownio. Tynnwch y cig o’r caserol a’i osod o’r neilltu wrth i chi goginio’r llysiau.
Yn syml
Piliwch a thorrwch y nionod/winwns, moronen, seleri a garlleg. Yna rhowch weddill yr olew yn y caserol, ychwanegwch y pancetta a’i goginio am 5 munud nes bydd yn dechrau brownio a chrisbio a’r braster yn llifo. Yna ychwanegwch y llysiau a’u coginio dros wres isel gyda’r perlysiau, sbeis a’r purée tomato am ryw 15 munud nes eu bod yn meddalu. Yna ychwanegwch y cig carw wedi’i frownio a chymysgwch y cyfan yn dda. Ychwanegwch y gwin a’r llaeth a chodwch y gwres nes bydd y ragu yn ffrwtian, yna coginiwch am 2 awr nes bydd y cig yn frau a’r saws wedi lleihau a thewhau.
Nawr
Torrwch y cnau castan yn fras a’u hychwanegu at y cig carw rhyw 30 munud cyn y diwedd a’i flasu i weld oes angen pupur a halen.
Yn y cyfamser
Coginiwch y pasta mewn digon o ddŵr wedi’i halltu nes ei fod yn al dente, yna draeniwch a’i gymysgu gyda’r ragu wedi’i goginio cyn ei weini ar ddysglau cynnes. Gallwch roi parmesan wedi gratio ar ben y cyfan.