I ddechrau
Rhowch y cig carw mewn marinad mewn dysgl wedi’i gorchuddio ac arllwys y gwin, y sbeisys a’r perlysiau drosto. Gadewch nhw yn yr oergell am ychydig oriau neu dros nos os oes modd.
Y diwrnod wedyn
Arllwyswch tua 150ml o ddŵr berwedig dros y madarch sych a gadewch iddynt socian am 20 munud yna eu draenio (gan gadw’r dŵr) a thorri’r madarch. Draeniwch y cig carw, ei sychu gyda phapur cegin a’u gorchuddio gyda’r blawd, yr halen a phupur.
Yna
Torrwch y cig moch brith yn giwbiau a’u rhoi mewn padell ffrio ar wahân dros wres canolig. Coginiwch y cig moch nes eu bod wedi crispio a’r braster wedi’i ryddhau, yna ychwanegwch y sibols wedi’u chwarteru a’u coginio am 5 munud.
Yn syml
Cynheswch y popty i 170C/325F/Nwy 3 (ffan 150C). Cynheswch yr olew mewn dysgl addas ar gyfer y popty dros wres canolig a choginio’r cig carw mewn sypiau nes ei fod wedi brownio bob ochr ac yna eu rhoi ar blât. Tynnwch y sglein o’r sosban gyda’r gwin a’r perlysiau o’r marinad gan grafu unrhyw ddarnau o waelod y ddysgl. Yna ychwanegwch y cig carw wedi’i goginio, y cig moch a’r sibols, y madarch sych a’r dŵr ac ychwanegu’r jeli cyrains cochion. Gorchuddiwch y cyfan â chaead a’u coginio yn y popty am awr yna ychwanegwch y madarch castan a’u dychwelyd i’r popty i goginio am 45 munud arall nes bod y cig yn frau. Gall yr amser coginio amrywio yn dibynnu ar oedran yr anifail a pha mor hir y mae wedi bod yn hongian.
I weini
Gweinwch gyda thatws stwnsh ac ychydig o nytmeg wedi gratio.