I ddechrau
Cynheswch un llwy fwrdd o olew mewn dysgl caserol fawr dros wres canolig a choginiwch y selsig nes eu bod yn frown i gyd. Tynnwch nhw allan o’r badell a’u rhoi o’r neilltu.
Yna
Ychwanegwch weddill yr olew yna’r sialóts a’u ffrio am 5 munud nes bod y sialóts yn dechrau brownio. Ychwanegwch y garlleg a choginio am 2 funud arall. Ychwanegwch y moron a’r cennin a’u ffrio am 10 munud arall yna cymysgwch yr hadau ffenigl a’r dail llawryf ac arllwys y seidr dros y cyfan. Dewch â’r cyfan i’r berw am 3 munud ac yna ei leihau i fudferwi a dychwelyd y selsig gyda’r caead ymlaen.
Yn syml
Coginiwch am 20 munud yna ychwanegwch y ffa gwyn a choginio am 10 munud arall nes bod y llysiau i gyd wedi coginio ond yn dal yn eithaf cadarn. Ychwanegwch sesnin at eich dant.
I weini
Rhowch nhw mewn powlenni bas cynnes a’u gweini gyda thatws stwnsh neu fara crystiog.