I ddechrau
Cynheswch y popty i 190C/375F/Nwy 5 (ffan 170C)
Yn syml
Pliciwch a thorri’r nionyn yn 8 darn a rhoi 2 yng ngheudod y ffesantod ynghyd â sbrigyn neu ddau o deim a deilen llawryf. Rhowch weddill y nionod mewn padell rhostio fach.
Nawr
Taenwch y menyn dros y frest ffesant a rhoi halen a phupur dros yr aderyn cyfan, yna gosodwch y cig moch dros y frest a gosod y ffesant ar ben y nionod yn y tun rhostio.
Yna
Rhowch y tun rhostio ar silff ganol y popty a’i rostio am 45-55 munud nes bod y sudd o’r morddwyd yn glir wrth roi twll ynddi gyda sgiwer. Os yw’r ffesant yn brownio gormod rhowch ffoil drosti.
Nawr
Tynnwch y cyfan o’r popty a rhoi’r ffesantod i orffwys ar blât cynnes. Dylech gael gwared ar unrhyw fraster o’r sudd ac arllwys y gwin at y cig gyda sbrigyn o deim a’i roi ar wres uchel i’w ferwi nes ei fod draean yn llai nag oedd cynt. Ychwanegwch halen a phupur a’r jeli coch ac arllwys y cyfan i jwg gynnes.
I weini
Cerfiwch y ffesantod a’u gweini gyda’r nionod a’r saws cynnes. Mae’r ddysgl hon yn mynd yn dda gyda bresych coch wedi’i frwysio, pwmpen rhost a thatws rhost.