Blas helgig o Gymru
Does dim byd tebyg.
Mae helgig yn gyfoethog mewn blas, heb lawer o fraster ac yn faethlon, ac mae ganddo’r gallu i gynnig ei hun i lu o ryseitiau a chynhwysion tymhorol. Nawr yw’r amser perffaith i roi cynnig ar wahanol fathau o helgig Cymreig blasus.
Cogyddion yn rhannu eu hawch am helgig
Siddarth Rathore
Siddharth yw Prif Gogydd y Purple Poppadom yng Nghaerdydd ers dros 20 mlynedd. Mae’r bwyty arobryn yn gweini bwyd Indiaidd go iawn gyda thro modern gan ddefnyddio cynhwysion o safon.
Cindy Challoner
Mae gan Cindy dros 10 mlynedd o brofiad fel cogydd. Gwnaeth ei hangerdd am gynnyrch o ffynonellau lleol argraff fawr ar feirniaid The Great British Menu ar BBC2, pan gynrychiolodd Gymru yn 2019.
David Killick
David yw Prif Gogydd tafarn y Heathcock, Caerdydd. Mae’n frwd dros fwyd tymhorol Cymreig. Mae’r fwydlen yn cynnwys y cynnyrch lleol gorau.
Tommy Heaney
Tommy yw Prif Gogydd Heaneys, Caerdydd. Lansiodd ef a’i bartner Nikki eu bar a bwyty yn 2018 ac maen nhw’n gweini bwyd ffres, tymhorol mewn amgylchedd hamddenol.
Ffesant Rhost
Parseli Petris gyda seidr Cymreig
Hwyaden wyllt gydag afal wedi’i garameleiddio a seidr Cymreig
Cawl Haidd Gwyn a Ffesant
Amser coginio
P’un a ydych chi’n chwilio am bryd bwyd canol wythnos cyflym a hawdd neu fwyd ar gyfer swper moethus, fe ddewch chi o hyd i’r ateb perffaith fan hyn. Mae ffesant, petrisen, colomen, hwyaden wyllt a chig carw yn ffynonellau protein blasus, pob un â’i flas unigryw ei hun, sy’n rhoi’r rhyddid i chi arbrofi yn y gegin. Porwch ein ryseitiau blasus i gael ychydig o ysbrydoliaeth.