Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ryseitiau helgig newydd blasus gyda’r arbenigwr bwyd a’r awdur Nerys Howell.
Mae Nerys yn rhannu pam mae coginio gyda helgig yn gwneud bwyta’n iachach yn hawdd iawn ac yn flasus;
Beth sy’n gwneud helgig mor hyblyg?
Mae helgig yn gig hynod hyblyg; mae’n gyflym ac yn hawdd i’w goginio pan fo amser yn brin, sy’n ddelfrydol os ydych chi’n chwilio am bryd cyflym canol wythnos. Gall helgig fod yn ddewis amgen hawdd yn eich hoff ryseitiau; o brydau trio-ffrio, bolognese, pasta pob a chaserolau i basteiod, prydau rhost mewn potyn a chyrri. Mae’n mynd yn dda gyda llu o flasau cryf, perlysiau a sbeisys, gellir coginio helgig trwy gydol y flwyddyn a’i addasu i weddu i’r tymhorau gyda ryseitiau o bob rhan o’r byd.
Beth yw rhai o’r ffyrdd newydd rydych chi wedi darganfod y gellir paratoi helgig?
Y ffordd orau o goginio helgig yw naill ai’n gyflym iawn neu’n araf iawn dros wres isel. Yn yr un modd â chigoedd eraill, mae’n well coginio’r toriadau â llai o fraster fel ffiled, lwyn ganol, brest, chwarthor am ychydig funudau ar y ddwy ochr, ond mae’r toriadau caletach fel ysgwydd yn well wedi’u coginio’n araf fel mewn caserolau, cyrris a phrydau rhost mewn potyn gyda pherlysiau, sbeisys, gwreiddlysiau, gwin, cwrw a seidr. Gan fod gan y cig flas cryfach mae’n mynd yn dda gyda sbeisys gwahanol fel mewn cyrris, prydau tro-ffrio a tsili.
Sut byddech chi’n disgrifio’r blas i rywun sy’n anghyfarwydd â helgig?
Mae helgig yn gyfoethog mewn blas ac mae ganddo flas ac arogl unigryw aall ymddangos yn gryfach na chigoedd eraill efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â nhw. Mae’r blas unigryw a’r cyfoeth haearn yn ganlyniad i ddiet o gynhwysion wedi’u chwilota’n naturiol.
Mae ffesant yn dod yn ddewis poblogaidd gyda defnyddwyr gan ei fod yn ddewis amgen mwy blasus yn lle cyw iâr fel y mae petrisen. Mae baedd gwyllt hefyd yn ddewis amgen blasus yn lle porc neu gig eidion ac mae colomen yn ddanteithfwyd gwych sy’n cymryd ychydig funudau i’w goginio; cig coch cyfoethog sy’n berffaith wedi’i ffrio mewn padell neu radell ac sydd lawn cystal mewn pastai.
Ceisiwch ddefnyddio briwgig cig carw yn lle briwgig eidion yn eich prydau bwyd o bastai’r bwthyn i koftas, mae’n ddigon hawdd newid. Neu beth am gynnwys helgig ar eich bwydlen parti swper nesaf i greu argraff ar eich gwesteion?
Beth yw’r manteision iechyd?
Does dim llawer o fraster ynddo ac mae’n faethlon; mae’n cael ei ystyried yn ddewis iachach i anifeiliaid fferm eraill oherwydd y braster dirlawn isel a’r cynnwys colesterol isel. Mae helgig yn ffynhonnell wych o brotein, fitaminau a mwynau, gyda blas cyfoethog o’r diet naturiol y mae’r anifeiliaid crwydrol hyn wedi’i chwilota yn y gwyllt.
Ydy defnyddio cynhwysion tymhorol eraill gyda helgig yn gweddu?
Mae helgig yn dymhorol ac yn cael ei ategu’n fawr gan gynhwysion ei gynefin naturiol fel madarch gwyllt, perlysiau coediog (saets, rhosmari, teim, dail llawryf gwyllt), ffrwythau ac aeron fel mwyar duon, eirin tagu, eirin, afalau.
Mae rhai cyfuniadau clasurol fel cig carw gydag aeron meryw, siocled, mwyar duon a ffesant rhost gyda sglodion helgig a saws bara. Mae hwyaid gwyllt ac ieir gini yn gweithio’n dda gyda sawsiau mwy ffrwythus (orenau, afalau, aeron) a phetrisen gyda bricyll neu eirin sych a chwningen gyda mwstard, olewydd a seidr.