Mae prosiect Helgig Cymru yn falch o fod wedi chwarae ei ran yn y gwaith o greu achrediad DU gyfan ar gyfer cig carw yn y DU. Nod The British Quality Wild Venison (BQWV) yw cynyddu’r gallu i olrhain Cig Carw Gwyllt Prydeinig (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) a sicrhau bod set o safonau’n cael eu bodloni ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi, o’r pwynt saethu hyd at ddiwedd y cyfnod prosesu i gefnogi hyder defnyddwyr a chynyddu gwerthiant cig carw gwyllt Prydeinig.