Helgig Cymru
Rydym ni yma i ddangos i chi pam bod dewis helgig yn gwneud synnwyr.
Drwy gefnogi ein partneriaid sy’n gwarchod ac yn hyrwyddo helgig cynaliadwy, rydym ni yma i gynnig rhywbeth i chi gnoi cil arno a’ch annog i fynd yn wyllt ac ymddiried yn eich synnwyr blasu.
Rydym ni’n falch o rannu faint o chwyldro y gall rhoi cynnig ar helgig gwyllt fod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech unrhyw wybodaeth pellach cysylltwch â ni.
O ffynonellau cynaliadwy
Gan fod helgig yn deillio o anifeiliaid sy’n symud yn rhydd sy’n chwilota ac sydd â ffyrdd rhydd ac egnïol iawn o fyw yn eu hamgylcheddau naturiol, mae’n hynod gyfoethog ei flas ac yn gadarn ei ansawdd, sy’n golygu ei fod yn benthyg ei hun i ryseitiau di-ben-draw, gyda rhywbeth at ddant pawb.
Drwy ddewis helgig wedi’i warantu gan y British Game Alliance (BGA) rydych chi’n cefnogi cig o darddiad moesegol a chynaliadwy sydd o’r ansawdd uchaf.
Helgig – anifail hollol wahanol ond ffordd wych o ehangu’ch gorwelion coginio.