Yn ystod hydref 2022 daeth y Cogydd Teledu ac Awdur River Cottage, Tim Maddams i Gymru, i gyflwyno cyfres o weithdai Helgig Cymru wedi’i thargedu at sector lletygarwch Cymru.
Roedd y gyfres hon o weithdai, wedi’i theilwra i Gymru, yn agored i rai yn y sector cigyddiaeth, siopau fferm a delis, yn ogystal ag ar draws y diwydiant lletygarwch cyffredinol yng Nghymru.
Cenhadaeth Tim oedd ysbrydoli hyder a chreadigrwydd wrth goginio gyda helgig Cymreig a’i gynnwys ar y fwydlen.
Pwy well i chwalu rhwystrau deall a choginio gyda helgig? Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, a chryn dipyn o wybodaeth am fwyd ac effaith cynhyrchu bwyd, bu Tim yn eistedd ar fwrdd The Country Food Trust yn y gorffennol, yn gweithio i ddosbarthu prydau helgig i dros 2.5 miliwn o bobl mewn angen.
Roedd chwalu mythau a hybu manteision iechyd a hyblygrwydd helgig yn ffactorau allweddol yng nghyflwyniad y gweithdy. Bu’r rhai a fynychodd hefyd yn archwilio sut i drin gwahanol fathau o helgig; o pam mae angen trin cig Ffesant a Phetrisen yn wahanol i gyw iâr, i pam y dylai hwyaid gwyllt fod ar restr pawb a sut y dylid dathlu cig carw gydol y flwyddyn.
Wrth ystyried natur dymhorol a pharu cynhwysion, roedd tueddiadau a ryseitiau poblogaidd yn chwarae rhan bwysig hefyd, gan esbonio sut y gall darnau gwahanol a hyd yn oed rhyw ac oedran yr anifail effeithio ar ei ddefnydd terfynol a sut y gall cigyddion a chogyddion weithio mewn ffyrdd a fydd naill ai’n dathlu hynny – neu ei liniaru trwy goginio a pharatoi’n greadigol.