I ddechrau
Rhowch y ffesantod mewn marinâd drwy wasgu 2 glof garlleg a’u cymysgu gyda’r sudd lemon. Ychwanegwch halen a phupur a gosodwch y brestiau yn y gymysgedd hon am 30 munud ar dymheredd ystafell.
Yn syml
Pliciwch a sleisio’r nionyn yn denau a gwasgu gweddill y garlleg. Toddwch y menyn a’r 2 llwy fwrdd o olew mewn sosban sauté fawr dros wres canolig i uchel ac ychwanegwch y nionod a’r garlleg. Coginiwch gan droi yn rheolaidd am 25 munud nes bod y nionod wedi carameleiddio a throi’n frown. Tynnwch y dail o’r teim a thorri llysiau’r gwewyr gan gynnwys y coesau yna ychwanegwch nhw at y nionod hanner ffordd drwy’r broses goginio.
Nawr
Golchwch y reis o dan ddŵr oer sy’n rhedeg nes bod y dŵr yn glir ac yna ychwanegwch ef at y nionod ynghyd â’r sbeisys, a’u troi’n dda. Yna ychwanegwch halen ac arllwys 425ml o ddŵr berwedig drosto. Trowch ef, ei orchuddio a’i adael i goginio ar wres isel am 30 munud nes bydd y reis wedi’i goginio ac yna tynnwch ef oddi ar y gwres.
Wrth aros
Tra mae’r reis yn coginio cynheswch y popty i 200C/400F/Nwy 6 (ffan 180C). Cynheswch un llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio a browniwch y brestiau ffesantod ar y ddwy ochr, eu gorchuddio â ffoil cyn eu rhoi yn y popty i goginio am 10 munud arall.
I weini
Arllwyswch y reis pilaf ar blât gweini cynnes gan roi’r ffesant ar ei ben. Gorffennwch gyda rhywfaint o sbrigynnau o lysiau’r gwewyr a gweini’r pryd gydag iogwrt naturiol.