Dewis cynaliadwy
Mae dewis helgig o ffynonellau cyfrifol yn ddewis cynaliadwy sy’n cefnogi rheolaeth a chynnal a chadw ein cefn gwlad annwyl.
Gyda goblygiadau amgylcheddol cigoedd wedi’u masgynhyrchu a goblygiadau lles anifeiliaid fferm ffatri, mae dewis helgig gwyllt yn golygu dewis cig o les uchel a chig o ffynonellau cynaliadwy.
Mae gan helgig, y gellir ei olrhain yn lleol, ôl troed carbon is na chig wedi’i ffermio a’i fewnforio, sy’n golygu y gallwch fwynhau’ch bwyd gan wybod bod y milltiroedd bwyd yn isel a’ch bod yn helpu’r amgylchedd.
Drwy ddewis helgig wedi’i warantu gan y British Game Alliance (BGA) rydych chi’n cefnogi cig o darddiad moesegol a chynaliadwy sydd o’r ansawdd uchaf.